Castell Harlech

portmeirion-1

Mae muriau castell Harlech yn llamu o wyneb craig sydd bron yn fertigol. ‘Gwŷr Harlech’. Dywedir bod anthem genedlaethol answyddogol Cymru, ffefryn cefnogwyr rygbi a bandiau catrodol fel ei gilydd, yn disgrifio’r gwarchae hiraf yn hanes Prydain (1461-1468) a ddigwyddodd yma yn ystod Rhyfel y Rhosynnau. Adeiladwyd model ‘muriau o fewn muriau’ llwyddiannus Edward mewn cyfnod byr iawn rhwng 1283 a 1295 gan fyddin o bron i fil o grefftwyr a llafurwyr medrus. Roedd Edward yn hoffi defnyddio’r seiri meini gorau o Savoy a seiri coed a gofaint gorau Lloegr. Yn y cyfnod, hwn oedd un o gestyll rhataf Edward, bargen am ddim ond £8,190. Mae gan y strwythur, a gafodd ei oruchwylio gan Feistr Gwaith y Brenin, James o St George, ddau gylch o furiau a thyrau, gyda phorthdy dwyreiniol aruthrol o gadarn. Roedd yn gastell hollol gadarn o bob ongl fwy neu lai. Ei arf cudd oedd grisiau 200 troedfedd (61m) sy’n parhau i arwain o’r castell i waelod y graig. Roedd y mynediad ar hyd y grisiau i’r môr ac at gyflenwyr hollbwysig yn sicrhau bod y trigolion a oedd o dan warchae yn y castell yn gallu cael bwyd a diod. Pan gafodd ei adeiladu, byddai sianel wedi cysylltu’r castell a’r môr. Gallech hwylio cwch hyd at y ffos o amgylch y castell. Saith gan mlynedd yn ddiweddarach, mae’r môr wedi cilio a gallech ddweud bod y castell yn ymddangos fel pe bai’n sownd, yn aros i’r llanw ddychwelyd unwaith eto. Harlech yw un o’r wyth safle a ddewiswyd gan Cadw fel hwb ar gyfer prosiectau cymunedol sy’n cefnogi dathliadau’r Olympiad Diwylliannol yng Nghymru.

Cyrraedd yma


Cyfarwyddiadau