Canolfan Gelfyddydau Plas Glyn-y-Weddw


Archebu

portmeirion-1

Mae Plas Glyn y Weddw’n un o leoliadau celf prysuraf Cymru, ar safle trawiadol yn edrych dros Fae Ceredigion a thuag at Fynyddoedd Eryri. Cafodd y Plas ei adeiladu yn 1857 ar gyfer Elizabeth Jones Parry, gweddw Syr Love Jones Parry o Fadryn. Yn dilyn marwolaeth y Foneddiges Parry a’i mab Thomas Love Duncombe Jones Parry, gwerthwyd y plasty i ŵr busnes o Gaerdydd, Solomon Andrews. Fe sefydlwyd oriel gelf yn y tŷ yn 1896 ac roedd y gerddi godidog a’r tir o gwmpas hefyd yn agored i’r cyhoedd. Cafodd yr oriel ei chau pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd a bu merched y Land Army’n aros yn rhan o’r tŷ. Gwerthodd y teulu Andrews y plasty a’r tir o’i gwmpas yn 1945. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd yr adeilad ei droi’n fflatiau preswyl ac erbyn yr 1970au roedd ei gyflwr yn dirywio’n gyflym. Yn 1979, prynwyd Plas Glyn y Weddw gan yr artist Gwyneth ap Tomos a’i gŵr Dafydd, a thrwy eu gwaith caled hwy fe achubwyd y Plas rhag mynd yn furddun. Fe sefydlwyd ymddiriedolaeth elusennol ganol yr 1990au i wneud y gwaith o redeg yr oriel yn lle Gwyneth a Dafydd. Roedd prynu coetir y Winllan yn 2008 yn allweddol i ddatblygiad Plas Glyn y Weddw yn y cyfnod diweddar o’i hanes. Roedd y coetir yn rhan o erddi gwreiddiol y plasty ac mae rhwydwaith o lwybrau, lle parcio eco i geir a theatr awyr agored wedi agor, ar ôl blynyddoedd o ddatblygu a gwaith caled.

Cyrraedd yma


Cyfarwyddiadau